Bienvenue! Croeso!

Voici le nouveau wiki d'Ysgol Dyffryn Teifi. Ici, vous trouverez toutes sortes de choses pour vous aider avec vos études de français. :)
(Dyma wiki newydd Adran Ffrangeg Ysgol Dyffryn Teifi. Byddwn yn ychwanegu gemau, cyflwyniadau, dolenni, fideos, ac unrhywbeth arall gall eich diddori neu eich cynorthwyo wrth ddysgu Ffrangeg yma.)

La marseillaise

http://youtu.be/qe5cw527iRMhttp://youtu.be/qe5cw527iRM

La chandeleur et Mardi Gras

Ar yr 2il o Chwefror, dathlwyd La Chandeleur yn Ffrainc - trwy fwyta pancos! Ac ar ein diwrnod pancos ni (dydd Mawrth Ynyd), 19eg o Chwefror, mae'r Ffrancwyr yn dathlu'r Mardi Gras ('dydd Mawrth tew') - gan fwyta pancos unwaith eto! Dyma ddolen i fynd â chi at rysait pancos yn Ffrangeg. Sylwch ar y 'llawysgrifen' Ffrangeg, fedrwch chi ei ddarllen? Fedrwch chi weithio mas y cynhwysion? A beth am y cyfarwyddiadau? Beth am roi tro ar eu coginio? :)

Recette de crêpe - miam!

Sut i ddefnyddio'r wiki yma...

Bydd rhai pethau sy'n siwtio pawb yn cael eu gosod ar y dudalen hafan (fan hyn!) ond mi fydd pethau eraill yn cael eu rhoi ar y tudalennau ar gyfer blwyddyn penodol (edrychwch yn y golofn ar y chwith). Cliciwch ar y dudalen sydd ar gyfer eich blwyddyn chi ac mi welwch chi bethau yno a fydd yn briodol i chi. Gobeithio y byddwch yn gweld y wiki yma yn ddefnyddiol ac os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cofiwch adael i'ch athrawes wybod! :-)


Allo, allo!

Bienvenue a chroeso nol ar ol y gwyliau haf! Dyma ffilm fer o Baris sy'n rhoi blas ar y brifddinas i chi - a faint o'r gân gefndirol fedrwch chi ddeall, tybed? Ecoutez bien! (Gadewch iddo lwytho gynta cyn ei chwarae!)

Allo Allo {Deux Américains à Paris} from Land of Nod Inc. on Vimeo.



Ebostio'r adran

Os hoffech ebostio unrhyw waith rydych wedi paratoi ar y cyfrifiadur i'r adran, gallwch ddefnyddio cyfeiriad ebost yr adran. Os ydych yn defnyddio'r dull yma i roi gwaith i mewn i'ch athrawes, cofiwch nodi'n glir yn y llinell destun eich enw, dosbarth ac enw eich athrawes - e.e. Carys Evans, 8T, Madame James‍‍‍‍‍‍.

adran.ffrangeg@gmail.com


Mwy o ieithoedd, mwy o opsiynau - Google

Dyma i chi ddolen at fideo sy'n dod o'r Iwerddon ac sydd yn dangos i chi rai manteision medru siarad ieithoedd tramor yn y marchnad swyddi y dyddiau yma. Mae'r fideo dim ond ar gael yn Saesneg, mae'n ddrwg gen i, ond roeddwn yn meddwl ei fod yn werth rhannu!

Mwy o ieithoedd, mwy o opsiynau

Roger Federer: cyfweliad aml-ieithog :)

Yn ogystal â bod yn chwaraewr tennis penigamp, mae gan Roger Federer dalent arall - mae'n rhugl mewn sawl iaith! Mae Roger yn enedigol o'r Swisdir, ac mi gofiwch bod 4 iaith swyddogol i'w cael yno - Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Romansch. Dyma gyfweliad gydag ef ble mae'n trafod ei ieithoedd, a pha iaith mae'n defnyddio i wneud beth. Chwarae teg i'r cyfwelydd yn ogystal, sydd hefyd yn amlwg yn rhugl mewn 3 iaith! Fedrwch chi sylwi pryd mae'r cyfwelydd yn defnyddio Ffrangeg neu Almaeneg, ac ym mha iaith mae Roger yn ateb y cwestiynau (dim ond un waith yn y cyfweliad maent yn defnyddio'r un iaith ar gyfer y cwestiwn a'r ateb!)?



Bravo Jean Dujardin!

M_Id_271734_jean_dujardin.jpg

Mae'r actor Ffrangeg Jean Dujardin newydd ennill y wobr am Actor Gorau yn seremoni'r Oscars 2012 - bravo! Fe yw'r actor Ffrangeg cyntaf i ennill y wobr yma ERIOED! Mae Jean nawr wedi ennill yn y BAFTAs, y Golden Globes, y Screen Actors Guild, yng Ngwyl Ffilmiau Cannes ac, wrth gwrs, yn yr Oscars!!! Chapeau! Mae am ei waith yn y ffilm 'The Artist', sy'n ffilm wedi ei wneud yn hen steil ffilmiau du a gwyn tawel. Mae'n parhau i fod yn y sinemau felly ewch i'w weld, da chi, i gael mwynhau ei berfformiad! :)

Dyma fideo ar gyfer y rhai hynny sydd yn ffansio rhoi tro ar ddilyn llwybr llwyddiant Jean Dujardin yn ei goncwest o'r Unol Daleithiau dros y misoedd diwethaf - fel y gwelwch, mae'n dipyn o gymeriad! Tout le monde adore Jean Dujardin!



Cylchgrawn Ffrangeg ar-lein: i-c@fé

Dyma ddolen i archif gylchgronnau ar-lein i-c@fé. Mae sawl erthygl ddiddorol i'w ddarllen a gemau bach i'w chwarae ac rydych yn sicr o ffeindio rhywbeth i fynd â'ch bryd! Rhowch dro arnynt! :)

Magazines en-ligne: i-café


Le monde est si intéressant!

Mae cymaint i'w weld! Teithiwch o amgylch y byd ar siwrne o ddarganfyddiad - mewn un munud! :)

MOVE from Rick Mereki on Vimeo.



Quel temps fait-il?

On parle français partout dans le monde, dans des pays très différents! Quel temps fait-il au Canada, en France et au Madagascar aujourd-hui? Rydym yn siarad Ffrangeg mewn sawl gwlad ar draws y byd, sydd yn wahanol iawn i'w gilydd! Sut beth yw'r tywydd yng Nghanada (Gogledd America), Ffrainc (Ewrop) a Madagascar (ynys yng Nghefnfor India) heddiw tybed?

Canada (Montréal)

France (Paris)

Madagascar (Anananarivo)





Linguascope

Dyma'r ddolen ar gyfer cael mynediad i safle Linguascope. Cofiwch fod angen yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair a roddodd eich athrawes i chi. Mae Linguascope yn ffordd hwylus o ddysgu Ffrangeg felly cofiwch ymweld â'r safle pob hyn a hyn i chwarae'r gemau!
http://www.linguascope.com/
france-flag.gif

*Nid yw'r ysgol yn gyfrifol am gynnwys unrhyw safleoedd allanol*